Gyda Sul arall wedi ein cyrraedd dyma drydedd garol ar eich cyfer. Mae hon yn pwysleisio’r gwahanol ymateb i’r Gwaredwr. Fe dywedodd Simeon y byddai’r baban hwn yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer. (Luc 2:34) A dyna fu mewn gwirionedd. Rhoir clod i’r bugeiliaid am adael eu praidd i chwilio amdano. Rhyfeddir at y sêr ddewiniaid yn teithio’n bell gan ddilyn y seren nes dod o hyd i’r un bach er mwyn ei addoli. Ar y llaw arall mae hanes yn ffromi ar ddinas Bethlehem, na roddodd le i’r bychan yn y llety. Condemnir Herod yn hallt am ei awydd i ddifa’r bychan. Ond felly mae hi o hyd – mae rhai yn croesawu Iesu, ac eraill yn ei wrthod. Peidiwn ni a throi cefn ar Waredwr mor rasol.
Gellir canu’r garol ar dôn Noel (Caneuon Ffydd 380 neu Praise 362)

Angylion fry uwch Bethlehem
Sy’n canu nefol gân,
 sain gorfoledd yn y nen
Am eni’r Iesu glân;
Ond nid adnabu’r byd ei ddod,
Diniwed blentyn Mair,
Ac nid oes le i Frenin ne’:
Dim ond y gwely gwair.

Un seren ddisglair yn y nen
Sy’n arwain at y crud;
A’r doethion ddont i blygu glin
Gan ddwyn anrhegion drud;
Ond Herod fyn ei ddifa’n llwyr –
Nid oes i’r baban le.
A’r byd sy’n plethu coron ddrain
I’w rhoi i Frenin Ne’.

Fe anwyd Crist – rhyfeddod yw –
I farw dros y byd,
A’n galw wna o hyd i ddod
A phlygu wrth Ei grud;
Os taena’r byd ei gaddug trwm
Ar led dros wlad a thref,
Mae’n olau lle daw Crist o hyd –
O! Mentrwn ato Ef!

© Dafydd M Job