Os oedd tarddiad stori’r geni yn nhragwyddoldeb, daw yn angenrheidiol unwaith dechreuwn edrych ar hanes y ddynolryw. Yn Genesis gwelwn Dduw yn creu’r bydysawd allan o’i gariad, a dyn (yn wryw ac yn fenyw) yn goron y greadigaeth honno. Go brin y gallwn ddychmygu yr hyfrydwch a brofai Adda ac Efa wrth fod mewn tangnefedd perffaith gyda gweddil y greadigaeth, a gyda’u Crëwr.

Ond nid felly y parhaodd pethau. Daw’r diafol i Eden yn ffurf y sarff i demtio ac i dwyllo.(Genesis 3)  A dyna golli’r baradwys ryfeddol honno.

Mae’r oedi ym Mharadwys?
Mae yr hedd? Ein diwedd dwys
Yn Eden sy’n oernadu;
Yng ngwên sarff daw’n hangau’n su
O gân, ond galargan lwyd,
A’i thôn yn nyrsio’n harswyd;
Hydref ein diniweidrwydd
Ar raib yn y gafael rhwydd,
A’n chwant yn drachwant a dry’n
Oferedd ein hyfory –
Yfory digyfeiriad
Diffaith, diobaith,di-Dad.
(DMJ)
 
Do alltudiwyd Adda ac Efa a’r ardd – ac eto nid yn gwbl ddiobaith. Wrth i Dduw gondemnio’r sarff, daeth gair o addewid i glyw ein rhieni cyntaf:  “Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15)

Hyd yn oed yn nechrau gwrthryfel dyn yn erbyn ei Greawdwr roedd yna edrych ymlaen at y geni rhyfeddol ym Methlehem. Mewn addewid gynt yn Eden fe gyhoeddwyd Had y Wraig.