Heddiw dyma garol i chi feddwl amdani. Mae’n gosod stori’r geni o fewn cyd-destun y stori fawr – stori sy’n cychwyn cyn bod amser, ond sy’n arwain ymlaen at y geni ym Methlehem, ymlaen at y Groes, ac yna at heddiw, a’r cyfle sydd gennym ni i ymateb i wahoddiad grasol y baban a ddywedodd flynyddoedd wedi ei eni: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.”  (Mathew 11:28-30). Gellir ei chanu ar dôn Poland (Caneuon Ffydd 373, neu Praise 361)

Yn y dydd cyn dyfod dyddiau
Trefnwyd dydd dy ddyfod Di;
Trefnwyd bore gwyn y geni
Cyn goleuo’n daear ni;
Cyn bod pechod,
Trefnwyd cymod
Trwy gyfamod
Perffaith Drindod;
Trefnwyd aberth trosom ni;
Trefnwyd aberth trosom ni.

Trwy y proffwyd gynt i’r tadau
Rhoed addewid am dy ddod;
Un i dalu dyled Adda,
Un i ennill dwyfol glod.
Y Cynghorwr
Mor rhyfeddol,
cadarn, dwyfol,
a Thad bythol;
T’wysog heddwch fyth i fod;
T’wysog heddwch fyth i fod.

Taniwyd seren yn y dwyrain
Oedd yn arwain at y crud;
Ac i Fethlem daeth bugeiliaid:
Ar y Baban oedd eu bryd;
Daeth y doethion
Ar eu hunion
Â’u anrhegion,
Gwerthfawr roddion,
I addoli Ceidwad byd;
I addoli Ceidwad byd.

Trefnwyd croes i dalu’n dyled
Ar y bryn tu maes i’r dre’;
Trefnwyd dydd i ninnau glywed
Am ei aberth yn ein lle;
Am i’r Iesu
Trosom waedu
I’n gwaredu,
Rhaid in’ gredu;
Brysiwn heddiw ato Fe;
Brysiwn heddiw ato Fe.

©Dafydd M Job