“Mind the gap.” Ryden ni gyd wedi clywed y geiriau wrth i’r tren nesáu at yr orsaf. Os na wyliwn, mae perygl i ni cael ein hanafu’r ddifrifol. Rhaid camu dros y bwlch o’r tren i’r platfform.

Mae hyn yn ddarlun o sut gall ein ffydd fel Cristnogion fod. Un peth yw cael ffydd yn y pen – rhyw ffydd ymenyddol yn unig. Er i ni efallai fod â ffydd fyw ar un adeg mae’n hawdd iddo ddirywio, nid yn gymaint i fod yn ffydd farw, ond yn rhywbeth sy’n llai na ddylai fod. Mae yna fwlch yn gallu codi rhwng yr hyn a gredwn, a’n profiad o ddydd i ddydd.

Dyna efallai oedd wedi digwydd i Sachareias. Roedd ganddo ffydd real iawn. Rydym yn darllen ei fod ef ac Elisabeth “ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd.” (Luc 1:6) Ond roedd yna rhywfaint o “gap” wedi tyfu rhwng yr hyn a gredai, a’r hyn a brofai yn ei fywyd. Roedd Duw rhywsut yn bell – efallai mewn perygl o fynd yn theori neu yn ddim mwy na gwirionedd – gwirionedd yr oedd yn mentro’i fywyd arno. Felly pan ddywedwyd wrtho fod ei weddïau ef ac Elisabeth wedi eu hateb, roedd yn tybied mai gwamalu oedd Gabriel. Sut ferdai o ag Elisabeth gael plentyn? Roedd gweithredoedd mawr Duw yn perthyn i oes arall – fel oes Abraham a Sara roddodd enedigaeth i Isaac yn eu henaint. (Gweler Luc 1:18).

Ond yna daw Duw yn agos – mor agos a real iddo nes ei fod ymhen naw mis yn gallu dweud: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â’i bobl (Luc 1:68). Roedd wedi profi may nag angel yn dod ato. Daeth Duw i mewn i’w fywyd mewn ffordd brofiadol newydd. Ffrwyth yr ymweliad hwnnw oedd Ioan Fedyddiwr. Wrth gwrs i Mair a Joseff daeth yn agosach fyth. Camodd Duw i mewn yn llythrennol i’w byd hwy fel Immanuel.

Tybed nad oes angen i ni gamu dros y bwlch rhwng ein ffydd real ond ychydig yn anghrediniol, draw i orffwys yn ddisgwylgar ar Dduw. Go brin y cawn ni’r angel Gabriel yn ymddangos i siarad â ni. Ond pwy a ŵyr na chawn ein taro’n fud o sylweddoli fod Duw yn fyw ac ar waith heddiw yn ein byd a’n bywyd ni. Ac yna fe dry ein mudandod yn foliant – yn union fel y gwnaeth i Sachareias.

Nid aeth o’n cof dy wyrthiau gynt:
Y sanctaidd dân a’r bywiol wynt;
Gwyn fyd na ddeuent eto i lawr –
O! Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Gad i ni weld dy wedd a byw,
Gad wybod mai Tydi sydd Dduw;
Gwisg wisgoedd dy ogoniant mawr,
O! Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Eifion Wyn