Mae’n ddydd Sul felly dyma rywbeth syml heddiw ar gyfer ein haddoliad. Dyma garol arall ar eich cyfer. Roedd hon yn anrheg Nadolig gen i i’r eglwys yma ym Mangor y llynedd, ac fe’i canwyd ar fore Nadolig i’r dôn Epiphany (Caneuon Ffydd 383 neu Praise 274)

Ganwyd yn faban a’i roi yn y preseb;
Ganwyd yn Frenin y cread i gyd;
Ganwyd, a llety’r anifail yn gysgod;
Ganwyd yn Geidwad, Gwaredwr y byd.

Ganwyd yn ddinod a neb yn ei ’nabod;
Engyl y nef â’i haddolent yn un;
Seren oleuai y ffordd at ei breseb –
Oedai i weld ddyfod Duwdod mewn dyn.

Ganwyd yn nerth a diddanwch i Israel,
Golau a gobaith i ddynion pob oes;
Aur, thus a myrr oedd anrhegion y doethion;
Anrheg y byd oedd, nid coron, ond croes.

Ef ydyw’r Bugail sy’n ceisio’r golledig;
Ef yw ein Brenin yn gorwedd mewn crud;
Gorsedd ein calon sy’n disgwyl amdano –
Rhown iddo goron ein bywyd i gyd.

© Dafydd M Job