Mae llawer yn gweld adeg y Nadolig fel cyfle i deulu ddod at ei gilydd. Er efallai i ni fod ar lwybrau gwahanol ar hyd y flwyddyn, mewn rhannau gwahanol o’r wlad neu hyd yn oed ein byd, mae dod at ein gilydd yn bwysig, i sylweddoli i bwy ryden ni’n perthyn. Mae’n gyfle i ail afael yn y berthynas dynn sydd rhwng perthnasau.

Roedd y Nadolig cyntaf hwnnw yn adlewyrchu perthynas hefyd – perthynas rhyfeddol y tri Person sydd yn Un Duw. Cawn weld y Tad ar waith – mae ganddo gynllun grasol sy’n peri bod y Mab yn mynd i gael enw sydd goruwch pob enw (Philipiaid 2:9). Mae wedi ymhyfrydu yn y Mab erioed, a dyma drefn fydd yn dangos rhagoriaeth y Mab mewn modd arbennig iawn.

Yna mae’r Mab tragwyddol, sydd yn caru’r Tad â chariad tragwyddol, yn dewis plygu i’r cynllun rhyfeddol hwn, er ei fod yn golygu ymdrech a dioddefaint na allwn ni mo’i ddychmygu. Felly o gariad at ei Dad, nid yw’n ystyried dal at ei statws fel gwrthrych mawl angylion a seraffiaid. Mae’n ymddarostwng gan ddyfod ar wedd dyn. Mae’r Hollalluog yn cofleidio gwendid, gan osod ei hun ar lwybr o ddibyniaeth. Mae’n dibynnu ar ei rieni i’w fwydo a’i amddiffyn. Mae’n dibynnu ar Joseff i’w ddysgu i gerdded, ac ar Mair i’w ddysgu sut i siarad. Mae’n dechrau cerdded y llwybr hwnnw sy’n arwain at y Groes.

Wedyn daw’r Ysbryd Glân i gysgodi dros Mair fel bod y Gair tragwyddol yn cael ei gynnwys mewn cell fechan yn ei chroth, yn cael tyfu’n iach, yn cael ei eni. Mae’r Ysbryd yn dod ar Ioan cyn ei eni hyd yn oed (Luc 1:15, 44), ac ar Sachareias iddo broffwydo (Luc 1:67), ac ar Simeon i’w arwain i’r Deml Luc (2:26,27)

Dyma dri Pherson y Duwdod mewn undod bwriad, a gwaith y Duw hwn i’w weld yn dwyn ffrwyth mewn baban bach fydd yn Waredwr y byd. Mae cariad yn llifo o un person i’r llall o fewn y Duwdod, ac yna mae’n gorlifo i’n cynnwys ni yn ei gynllun grasol.

Mae’r Nadolig yn llawer mwy nag amser i’r teulu, er mor braf ydi hynny. Mae’n fwy nag amser i’r plant. Mae’n adeg i ryfeddu at gariad tragwyddol yn llosgi’n eirias nes cofleidio ein byd tywyll.

O, deuwch ac addolwn
O, deuwch ac addolwn
Grist o’r nef!