Fe soniais i ddoe fod y Tad ar waith yn trefnu cynllun grasol i ddangos pa mor rhagorol yw’r Mab. Mae pobl efengylaidd weithiau wedi gosod y Tad yn erbyn y Mab. Mae’r Tad yn ddig oherwydd ein pechod, a daw’r Mab yn rasol i sefyll rhwng dicter y Tad â ni, a bodloni ei awydd am gyfiawnder. (Dyma’r darlun barodd i Steve Chalke ddisgrifio athrawiaeth yr Iawn fel cosmic child abuse.)

Mae’r darlun Beiblaidd yn bur wahanol. Mae’n wir fod y Tad yn ddig am ein beiau, ond mae hefyd yn ewyllysio ein bod yn troi ato. Pam? Oherwydd ei fod am i  ni weld pa mor ardderchog yw’r Mab.

Yn gyntaf gallwn edrych yn ôl cyn bod byd a chyn bod amser. Beth wyddom ni am hwnnw? Mae Iesu yn rhoi syniad i ni o’r hyn oedd yn digwydd y tu hwnt i amser: “Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â’r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.”(Ioan 17:5)  Roedd y Mab yn ogoneddus, a’r Tad a’r Ysbryd yn ymhyfrydu yn ei ogoniant.

Nesaf beth welwn ni’r Tad yn ei roi i’r Mab fel anrheg Nadolig? Er syndod mae Duw’r Tad yn dewis rhoi pobl i’w Fab: Gofyn, a rhoddaf iti’r cenhedloedd yn etifeddiaeth, (Salm 2:8);
Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo’r sawl sy’n dod ataf fi. (Ioan 6:37)
Ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i. Y mae fy Nhad, a’u rhoddodd hwy i mi, yn fwy na phawb, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad. (Ioan 10:28-29)
“Yr wyf wedi amlygu dy enw i’r rhai a roddaist imi allan o’r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe’u rhoddaist i mi. (Ioan 17:6)

Ond sut mae’r Mab yn mynd i dderbyn yr anrheg hwn o bobl? Mae’n gorfod eu ceisio. Mae’n gorfod dangos  ei natur rhyfeddol o gariad eithafol:

Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder. Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. (Ioan 10:10-11)
Pa fath Dduw yw hwn sy’n rhoi heibio ei ogoniant a dod fel baban, nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer? (Mathew 20:28) Rydym yn dechrau gweld ychydig o’r gogoniant wrth fyfyrio ar yr aberth hwn.

Beth fydd pen draw y ceisio hwn? O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle’r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio’r byd. (Ioan 17:24)

Mae’r Tad wedi ein caru ni gymaint, fel ei fod am i ni weld gogoniant ei Fab. Fedrwn ni ddim gweld gogoniant ei Fab yn iawn nes ei fod wedi ein caru a’n gwaredu – ond yn y gwaredu hwnnw daw ei ogoniant yn fwyaf clir.

“Trysor sydd ynddo, perl o ddwyfol fro;
A’i ras a roes y trysor hwn i mi!”

“In Him there lies a treasure all divine;
And matchless grace has made that treasure mine!”
                                                             (William Gadsby)