Fyddwch chi’n cael trafferth i ddewis anrhegion i’w rhoi i bobl? Mae ambell i berson yn hawdd iawn i’w plesio, a does dim problem meddwl beth i’w roi iddyn nhw. Ond mae ambell un arall yn fwy anodd – yn enwedig os nad ydyn nhw wedi rhoi unrhyw gliw i chi beth fyddai’n dda ganddyn nhw ei gael y flwyddyn hon. Wedi’r cwbl, rydech chi am gael rhywbeth fydd yn siwtio, yn enwedig mewn dydd o gynni cymharol. Tydech chi ddim am luchio arian i ffwrdd ar rhywbeth na gaiff ei werthfawrogi.

Pa anrheg roddwch chi i Iesu tybed? Dyma ddylai fod yn ein meddwl ar adeg fel hyn, oherwydd mai cofio ei eni Ef ydym ni. Yr hyn sy’n ddiddorol wrth edrych ar y Gwaredwr yn ystod ei fywyd yma ar y ddaear, yw ei fod bob amser yn edrych ar gymhellion y rhoddwr. Meddyliwch am y tro hwnnw pan eisteddodd wrth y drysorfa yn y Deml yn Jerwsalem a gweld y rhai’n dod yno i roi eu cyfraniadau. Nid y cyfoethog a’u cyfraniadau helaeth dynnodd ei sylw – mi fedren nhw fforddio rhoi. Yn hytrach y weddw dlawd fwriodd gwpl o ddarnau bychan i mewn gafodd ei chanmol – oherwydd ei bod yn rhoi’r cwbl oedd ganddi. Roedd yn ei rhoi ei hunan i Dduw. (Gwelwch Marc 12:41 – 44)

Dyna’r hyn allwn ni ddod iddo. Nid yr aur, thus a’r myrr, ond ein calonnau.

Wrth ddod rhaid gochel ein cymhellion. Yn aml mae crefydd yn dirywio nes ein bod yn meddwl rhywsut ein bod yn gwneud ffafr â Duw wrth i ni ei wasanaethu. Am ein bod yn rhoi, yna bydd yn siwr o’n derbyn. Ond nid rhoi er mwyn iddo’n canmol ddylem ni. Am iddo Ef ein derbyn rydym ni yn gallu rhoi yn llawen. Wedi’r cwbl, tydi fy nghalon i ddim llawer o rodd – ond mae’r Gwaredwr wrth ei fodd yn fy ngweld yn dod ato i’w rhoi’n ddinacád yn ei ddwylaw.

Dyma gyfres o englynion i feddwl am ein rhoi ni i’r Arglwydd:

Yr Anrheg a roddais

Ar agor dy ddrud anrhegion – o aur
Thus a myrr, Iôr tirion
Yno gwêl: mae un galon
Gyda hwy; fe gei Di hon.

Un galon na all gelu – ei düwch
A deuaf i blygu
Yn sain yr angylion sy’
Yn hedeg uwch dy feudy.

Un galon yn y golau – yn newid
Dan awen dy eiriau;
Un galon oer i’w glanhau;
Un daith i’th geisio Dithau.

O dy gymell, a elli – ei harbed
O’i derbyn, ac erddi
Ar y daith a fentri Di
Ar astell farw drosti?

O! Tyred, Faban tirion – Ni allaf
Roi gwell nag anrhegion
Y tri doeth; O tyred, Iôn,
A hawlia lety ‘nghalon.

© Dafydd M Job

Categories: Tymor yr Adfent