Tymor yr Adfent xiv

images (1)Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xi

Mae a wnelo deall y Nadolig â deall ein cyflwr ni. Mae’r Beibl yn rhoi’r urddas mwyaf i ni, oherwydd rydym yn darllen yn y bennod gyntaf oll ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw. Mae yna rhywbeth amdanom ni sy’n ein gosod arwahán i weddill y creaduriaid. Mae nhw’n dangos creadigrwydd a gallu Duw, fel mae darlun yn gallu dangos dawn arlunydd. Ond rydym ni wedi ein creu i fod yn fwy, fel hunan-bortread lle mae’n dangos ei natur ei hun. (rhagor…)

Tymor yr Adfent ix

Mae yna fwrdd yn ein tŷ ni sydd ar hyn o bryd wedi diflannu dan lwyth o bapur lliwgar, sellotape, a chardiau. Un o’r gorchwylion yr adeg hon yw lapio’r anrhegion. Mae rhai yn gweld hyn yn orchwyl diflas, ond mae eraill yn cael mwynhád o gymeryd anrheg, dewis papur gyda rhyw batrwm nadoligaidd a’i dorri i faint cyfatebol, ac yna lapio’r anrheg yn download (2)ofalus, gan feddwl am y person wnaiff dderbyn y rhodd. Mae yna rhyw fwynhád arbennig os oes modd cuddio siap yr anrheg, rhag i’r un sy’n ei dderbyn fedru dyfalu beth sydd ynddo o flaen llaw. (Mae hyn ychydig yn anodd os mai beic yw’r rhodd!) Un gêm mae llawer yn ei chwarae ydi ceisio dyfalu beth sydd wedi ei guddio dan y papur sgleiniog cyn ei agor. (rhagor…)

Tymor yr Adfent viii

Yn arferol mae’r Sul yn ddiwrnod i orffwys oddi wrth ein cyfrifoldebau arferol. Mae’n gallu bod yn ddiwrnod i anadlu ynghanol prysurdeb bywyd. Ond bydd y Sul hwn i rai yn bur wahanol i’r arfer. I rai mae’n ddiwrnod o gyfrif cost y llifogydd yr wythnos a aeth heibio. Mae rhai yn arbennig wedi colli eu cartrefi yn swydd Norfolk, a bydd yna edrych yn bryderus i’r dyfodol gyda chwestiynau mawr am sut mae ei wynebu. (rhagor…)

Tymor yr Adfent vii

Un o’r pethau sydd wedi bod ar y newyddion y dyddiau diwethaf yw’r olygfa dorcalonnus o gartrefi wedi eu hysgubo ymaith gan y stormydd ar arfordir dwyrain Lloegr. _71575463_1450054_631343586904031_1190890853_nRoedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau. (rhagor…)

Tymor yr Adfent vi

Un peth fydd yn llenwi’r newyddion heddiw ar y teledu a’r papurau newyddion – Marwolaeth Nelson Mandela. Dyma ddyn ddaeth yn arwr byd yn sgîl ei benderfyniad i geisio torri cylch atgasedd yn Ne Affrica. images Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent iv

Ydech chi’n un o’r bobl hyn sy’n paratoi popeth mewn digon o amser, neu ai rhywun munud olaf ydych chi? Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gymysgedd o’r ddau. Mewn rhai pethau byddwn wedi meddwl digon o flaen llaw, ond mae yna bethau eraill sy’n cael eu gosod o’r neilltu tan y foment hwyraf posib. Mae Gŵyl y Geni yn tynnu allan y gwahaniaeth mewn llawer. Bydd rhai yn gwbl drefnus wythnosau o flaen llaw, tra bydd eraill yn sgramblo i gael yr anrheg olaf ar Noswyl Nadolig. (rhagor…)