Rhyddid a Chaethiwed

Wrth edrych ar y lluniau sy’n dod o’r Dwyrain Canol y dyddiau hyn mae’n anodd peidio cydymdeimlo â’r bobl sy’n tyrru i’r strydoedd i hawlio newid yn y gyfundrefn wleidyddol yn eu gwledydd. Wedi’r cwbl rydym ni yn y Gorllewin wedi cael mwynhau’r rhyddid mae democratiaeth yn ei ddiogelu i ni ers cymaint o amser. Ond beth yw gwir ryddid, ac ym mha le mae hwnnw i’w gael?