Adfent 2013
Tymor yr Adfent xviii
Un o wirioneddau mawr ein bywydau ni ydi fod pethau yn digwydd sydd y tu hwnt i’n gallu ni i’w rheoli. O’r tywydd, i ymateb ffrindiau, i iechyd, tydi pethau ddim yn digwydd i reol. Er hynny rydym ni am geisio gosod trefn arnyn nhw. Dyna ran o ymdrech bywyd – gallu rheoli neu lywodraethu fel ein bod yn gwybod beth sy’n digwydd a phryd mae o’n digwydd. (rhagor…)
Ddoe roeddwn i’n sôn am yr adnod honno sydd mor gyfarwydd i ni: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6) Peth arall sy’n amlwg o’r adnod hon yw mai anrheg yw efengyl Iesu Grist i ni – Mab a roddwyd yw hwn.
Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad.
Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod.
Mae’r eglwys wedi bod yn dda iawn ar adegau am gau pobl allan. Dim ond y parchus sy’n dderbyniol. Dim ond y rhai sydd wedi dod i fyny i’r safon sy’n cael dod i mewn. Mae wedi llwyddo i roi yr argraff i gymaint nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas sy’n dwyn enw Iesu Grist. Mae yna rhyw eironi torcalonnus am hyn o ystyried neges y Beibl.
gwybodaeth am ddechreuadau ein sustem solar, gan gynnwys sut olwg oedd ar y sustem cyn llunio’r planedau.