Credu Ymarferol?

Cwestiwn arall i ni ei ystyried wrth feddwl am yr hyn a gredwn yw hwn: A fedra i fyw gyda’m cred? Beth yw canlyniad credu fel y gwna’r Atheistiaid Newydd ac a oes modd byw yn ôl y gred honno?

francis-crickYn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994)) (rhagor…)

Nadolig Llawen

9186567-illustration-of-traditional-christian-christmas-nativity-sceneMae’r dydd mawr wedi cyrraedd. Bydd y plant wedi bod yn agor eu hanrhegion, a’r rhan fwyaf ohonom yn cael diwrnod i ddathlu. Mae llawer o fwynhad i’w brofi yn y dathliadau. Ond y tu cefn i’r cyfan fe ddylem ryfeddu yn gyson am i Dduw ein caru, a danfon ei Fab er ein mwyn. Fel y gwnes y llynedd, dyma gyflwyno cerdd a ysgrifenais ychydig flynyddoedd yn ol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xiii

NoEntry-900x900Mae’r eglwys wedi bod yn dda iawn ar adegau am gau pobl allan. Dim ond y parchus sy’n dderbyniol. Dim ond y rhai sydd wedi dod i fyny i’r safon sy’n cael dod i mewn. Mae wedi llwyddo i roi yr argraff i gymaint nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas sy’n dwyn enw Iesu Grist. Mae yna rhyw eironi torcalonnus am hyn o ystyried neges y Beibl. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 19

Fe soniais i ddoe fod y Tad ar waith yn trefnu cynllun grasol i ddangos pa mor rhagorol yw’r Mab. Mae pobl efengylaidd weithiau wedi gosod y Tad yn erbyn y Mab. Mae’r Tad yn ddig oherwydd ein pechod, a daw’r Mab yn rasol i sefyll rhwng dicter y Tad â ni, a bodloni ei awydd am gyfiawnder. (Dyma’r darlun barodd i Steve Chalke ddisgrifio athrawiaeth yr Iawn fel cosmic child abuse.) (rhagor…)