Adduned Blwyddyn Newydd

imageDarllenwch Salm 1

Dyma ni wedi dechrau ar wythos yr addunedau. Mae llawer yn dewis cymryd dechrau blwyddyn fel amser i geisio newid rhywbeth yn y ffordd mae nhw’ byw. Bydd ceir wedi parcio y tu allan i’r “gym” lleol yn dangos awydd rhai beth gynnag i wneud mwy o ymarfer corff. Bydd sawl un wedi dechrau ar ddeiet, yn enwedig ar ôl gwledda dros y Nadolig. Mae amryw yn cael eu hannog i fynd am fis heb alcohol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 22

imageDarllenwch Mathew 1:18-25

Mae yna rai cymeriadau sy’n amlwg yn hanes Iesu Grist, ond mae yna eraill sy ddim yn cael cymaint o sylw. Eto mae eu lle yn bwysig tu hwnt yn y stori. Cymrwch chi Joseff. Fydd o byth yn cael cymaint o sylw â Mair. Ac eto roedd ei gyfraniad yn allweddol, ac yn rasol iawn hefyd. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 4

Canu gyda'n gilydd yn y Fforwm

Canu gyda’n gilydd yn y Fforwm

Wedi prysurdeb dydd Llun teimlais reidrwydd i geisio cael diwrnod ychydig yn fwy tawel dydd Mawrth. Mae’r boreuau yn olau yma, a chan fod Jerry sy’n rhannu ystafell gyda mi yn codi am 4.30 bob bore i fynd allan i redeg rwyf fel arfer i fyny erbyn 5, ac yn cael amser i ddarllen ac ysgrifennu. Yna am 7.00 bydd yn amser brecwast. Y tro hwn roeddwn yn mentora gweinidog o Kiev yn yr Iwcraen. (rhagor…)

Y Cristion Anghofus

Mae’n ganol wythnos, a phrysurdeb gwaith a gorchwylion gwahanol yn llenwi ein meddyliau. Mae’r penwythnos diwethaf yn ymddangos yn hir yn ôl ar un olwg. Ond mi fydd nifer ohonoch sy’n darllen hwn wedi gwrando pregeth (neu ddwy efallai) dydd Sul. Beth sydd wedi digwydd i’r hyn glywsoch chi? Mae Read more

Nadolig 2014, 10

imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)