Tymor yr Adfent xvi

Familiarity breeds contempt meddai’r hen air. Efallai mai gwireb fwy cywir parthed hanes y Nadoilig fyddai’r hyn ddywedodd rhywun arall yn ddiweddar: Familiarity breeds inattention. Rydym mor gyfarwydd â rhai geiriau ac adnodau, fel nad ydym yn meddwl yn ddwfn iawn am eu hystyr, Cymrwch chi’r adnod honno o Eseia:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)

(rhagor…)

Tymor yr Adfent xv

_71750229_71750228Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xiv

images (1)Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xii

Ddoe fe soniais i am broblem ein cyflwr. (Tymor yr Adfent xi) Rydym mewn trafferth oherwydd fod ein perthynas â Duw wedi ei dorri. Am ein bod wedi mynnu expulsionmynd ein ffordd ein hunain yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau rhesymol ein Crëwr, mae yna bellter wedi codi rhyngom. Oherwydd hyn fe gaewyd Adda ac Efa allan o Eden, a hiraeth mawr calon pob un ers hynny fu ceisio darganfod ffordd yn ôl i Baradwys.
Efallai bydd rhywun yn holi pam fod Duw wedi ei gwneud hi mor anodd i ddod yn ôl ato? (rhagor…)

Tymor yr Adfent xi

Mae a wnelo deall y Nadolig â deall ein cyflwr ni. Mae’r Beibl yn rhoi’r urddas mwyaf i ni, oherwydd rydym yn darllen yn y bennod gyntaf oll ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw. Mae yna rhywbeth amdanom ni sy’n ein gosod arwahán i weddill y creaduriaid. Mae nhw’n dangos creadigrwydd a gallu Duw, fel mae darlun yn gallu dangos dawn arlunydd. Ond rydym ni wedi ein creu i fod yn fwy, fel hunan-bortread lle mae’n dangos ei natur ei hun. (rhagor…)