Adfent 2013
Tymor yr Adfent ix
Mae yna fwrdd yn ein tŷ ni sydd ar hyn o bryd wedi diflannu dan lwyth o bapur lliwgar, sellotape, a chardiau. Un o’r gorchwylion yr adeg hon yw lapio’r anrhegion. Mae rhai yn gweld hyn yn orchwyl diflas, ond mae eraill yn cael mwynhád o gymeryd anrheg, dewis papur gyda rhyw batrwm nadoligaidd a’i dorri i faint cyfatebol, ac yna lapio’r anrheg yn
ofalus, gan feddwl am y person wnaiff dderbyn y rhodd. Mae yna rhyw fwynhád arbennig os oes modd cuddio siap yr anrheg, rhag i’r un sy’n ei dderbyn fedru dyfalu beth sydd ynddo o flaen llaw. (Mae hyn ychydig yn anodd os mai beic yw’r rhodd!) Un gêm mae llawer yn ei chwarae ydi ceisio dyfalu beth sydd wedi ei guddio dan y papur sgleiniog cyn ei agor. (rhagor…)
Roedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau.
Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol.