Newyddion diweddara

Oherwydd y cyfyngiadau yn sgîl ymlediad COVID-19 ar draws y Deyrnas Unedig mae Capel y Ffynnon yn ceisio gweithredu yn ôl cyngor y llywodraeth a’r awdurdodau. Felly ni fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Capel am gyfnod amhenodedig. Bore Sul – fory (Mawrth 22) a phob Sul bydd Read more

Nadolig 4

imageDarllenwch Salm 146

Pawb â’i fys lle bo’i ddolur“. Dyna ddywed yr hen ddihareb Gymraeg. Rydym, bob un ohonom yn gweld y byd o berspectif hunan-ganolog. Mae yna rhyw reidrwydd yn hyn, oherwydd mae’r hyn sy’n digwydd i fi yn fwy real na’r hyn sy’n digwydd i bobl mewn llefydd eraill. Daeth hyn yn glir iawn i mi y dyddiau diwethaf wrth edrych ar y penawdau newyddion. Yr hyn sydd wedi bod yn llenwi’r rhan helaethaf o’r rhaglenni newyddion ar y teledu yw’r glaw a’r llifogydd, yn enwedig yng ngogledd Lloegr. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 2b

Prynhawn Sul cymerais y cyfle i ddarllen ac ysgrifennu ychydig cyn mynd i weithdy dan arweiniad Dirk Jongkind. Mae Dirk yn gweithio ar fersiwn newydd o destun y Testament Newydd yn y Groeg, gan ystyried y lawysgrifau gorau. Ond y prynhawn hwn nid y testun Groeg oedd ei faes ond “gwybodaeth” a sut y gallwn fod yn bobl sydd yn ceisio gwybodaeth gywir. (rhagor…)

Fforwm Ewrop

Dyma fi wedi cyrraedd gwlad Pŵyl unwaith eto ar gyfer Fforwm Arweinwyr Ewropeaidd (neu ELF fel y gelwir hi.Ers sawl blwyddyn Rwyf wedi cyfrif y fforwm hon yn gyfle arbennig i ystyried yr hyn mae Duw yn ei wneud yn Ewrop.

Cyrhaeddais ddoe wedi taith gymharol hwylus (heblaw am ras ar draws maes awyr Frankfurt er mwyn dal yr awyren i Katowiče!). Hon yw’r drydedd flwyddyn i’r fforwm gyfarfod yn Wisla, wedi iddi symud o Eger yn Hwngari. (rhagor…)

Meddwl am Auschwitz (6)

Adolf Hitler yn annerch torf

Adolf Hitler yn annerch torf

Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi yn aml yng nghyd-destun yr holocost yw “Faint oedd yr Almaenwyr yn gyffredinol yn ei wybod am yr hyn oedd yn digwydd?” Mae’n rhaid eu bod yn gwybod rhwyfaint, oherwydd roedden nhw wedi gweld yr hyn ddigwyddodd yn y dinasoedd wrth i’r Iddewon gael eu cyfyngu i’r ghettos, a gweld miloedd ohonynt yn diflannu i’r gwersylloedd. Os nad oeddent yn gwybod beth yn union oedd yn digwydd yno, na maint y creulondeb, eto roedd yn rhaid eu bod yn gwybod rhywfaint. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xii

Ddoe fe soniais i am broblem ein cyflwr. (Tymor yr Adfent xi) Rydym mewn trafferth oherwydd fod ein perthynas â Duw wedi ei dorri. Am ein bod wedi mynnu expulsionmynd ein ffordd ein hunain yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau rhesymol ein Crëwr, mae yna bellter wedi codi rhyngom. Oherwydd hyn fe gaewyd Adda ac Efa allan o Eden, a hiraeth mawr calon pob un ers hynny fu ceisio darganfod ffordd yn ôl i Baradwys.
Efallai bydd rhywun yn holi pam fod Duw wedi ei gwneud hi mor anodd i ddod yn ôl ato? (rhagor…)

Beth yw gwerth bywyd?

Heddiw mae’r bilsen bore wedyn ar gael am ddim yn fferyllfeydd Cymru. Mae rhai yn gweld hyn fel peth cadarnhaol. Sonir am y gofid sydd i famau ifanc ein gwlad. Sonir am hawl merched i ddewis – wedi’r cwbl mae dynion wedi llwyddo i osgoi cyfrifoldeb erioed, gan gymryd mantais heb wynebu’r canlyniadau. Mae hyn yn gymorth i dynnu i lawr lefel yr unwanted pregnancies. (rhagor…)

Caru a Chasáu

“What the world needs now is love, sweet love; that’s the only thing that we’ve got too little of”. Geiriau sy’n mynd a mi yn ôl i’r chwedegau, ac sy’n datgan agwedd llawer o bobl ynglŷn â’r hyn sydd o’i le ar ein byd. Pe byddai pobl ond yn dysgu sut i garu ei gilydd yn well, mi fyddai pob dim yn dod i’w le. Mwy o gariad a llai o gasineb yw’r ateb. (rhagor…)