Cynllun y Flwyddyn

images (6)Ydech chi wedi gwneud rhyw gynlluniau arbennig ar gyfer 2014? Mae dechrau’r flwyddyn yn adeg lle mae llawer yn edrych ymlaen at rywbeth. Rydym newydd gael y gwyliau Nadolig, ac wrth i’r rheini ddod i ben, rydym ninnau eisiau gallu cael rhywbeth newydd i feddwl amdano. (rhagor…)

Blwyddyn Newydd Dda

FireworksMae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion. (rhagor…)

Nadolig 11

Ddoe fe ddechreuais i feddwl am ymgnawdoliad Crist fel patrwm ar ein cyfer ni: Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” (Ioan 20:21) Mae yna bethau cwbl unigryw am y ffordd yr oedd y Tad yn anfon ei Fab i’r byd. Does dim modd y gallwn ni dalu iawn am bechod y byd. Ond mewn rhai ffyrdd mae modd i ni ddilyn patrwm y Gwaredwr. (rhagor…)

Nadolig 10

Wrth i ni nesáu at ddiwedd deuddeg diwrnod y Nadolig, gyda’r addurniadau’n cael eu cadw, y gacen wedi diflannu, yr anrhegion wedi colli ychydig o’u sglein a’r drefn arferol yn ail-gychwyn yn ein bywyd, yden ni hefyd yn anghofio’r hyn ddigwyddodd ym Methlehem? Neu oes yna ganlyniadau i’w gweld yn ein bywyd sy’n mynd i barháu i’r misoedd nesaf? (rhagor…)

Nadolig 9

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

Fel hyn mae’r Pregethwr yn cychwyn un o gerddi enwoca’r Beibl. (Pregethwr 3) Ond i’n hoes brysur ni, y gŵyn ydi ein bod mor brysur nad oes modd dod o hyd i amser i bob gorchwyl. Mae blwyddyn newydd wedi dechrau, a 2012 drosodd. Mae cyfleon y llynedd wedi mynd, a rheidrwydd i geisio cyflawni mwy eleni. (rhagor…)

Nadolig 8

Mae diwrnod yr addunedau mawr yma unwaith eto. Mae’r cyntaf o Ionawr wedi cyrraedd. Mae 2012 drosodd a bydd rhaid arfer gyda rhoi 2013 ar llythyrau, sieciau a ffurflenni. Dwi’n siwr bydd llawer yn gwneud rhyw addunedau am golli pwysau, neu rhoi heibio ysmygu, neu wneud mwy o ymarfer corff. (rhagor…)