Tymor yr Adfent 10
Gair arall rydym ni fel Cristnogion yn ei gysylltu gyda gŵyl y Nadolig yw “Dirgelwch”. Mae yna bethau sydd y tu hwnt i’n deall ni ynglŷn â digwyddiadau Bethlehem. Beth welodd y sêr ddewiniaid, a beth barodd iddyn nhw deithio’r holl ffordd i Jerwsalem ac yna i Fethlehem? Sut olwg oedd ar yr angylion ddaeth i gyhoeddi’r newyddion i’r bugeiliaid? A’r dirgelwch mwyaf – y geni gwyrthiol, gyda Mair yn disgwyl plentyn wedi ei genhedlu o’r Ysbryd Glân.
Mae mwy nag un math o ymateb i ddirgelwch yn bosib. Meddyliwch am Sachareias a’i benbleth pan ddaeth Gabriel i ddweud wrtho y byddai ef a’i wraig, Elisabeth yn cael plentyn, a’i enw fyddai Ioan. Dyna fu eu gobaith er pan fu iddyn nhw briodi amser hir yn ôl. Ond gyda’r blynyddoedd yn mynd heibio, er iddyn nhw hiraethu, gan arllwys eu calonnau allan gerbron Duw mewn gweddi, dyma’u gobaith yn pallu. Erbyn i Gabriel ymddangos, breuddwyd ieuenctid wedi ei hen gladdu oedd y syniad o fod yn rhieni. Felly pan ddaeth y neges, doedd dim ond anghrediniaeth yn llenwi calon yr hen offeiriad. Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a’m gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.” (Luc 1:18)
Roedd hyn ar waethaf y ffaith fod angel wedi ymddangos iddo. Roedd Sachareias yn gwybod yr hanes am Abraham a Sara yn rhoi genedigaeth i Isaac a hwythau’n hen, neu hanes Hannah a Samiwel. Ond rhywsut roedd yn anodd cysylltu’r hanesion hynny gyda’i sefyllfa fo ac Elisabeth. Ymddangos fel chwedlau oedd eu stori nhw.
Mae ymateb Mair i’r dirgelwch, er bod ei geiriau yn debyg iawn i rai Sachareias, yn wahanol. Daeth Gabriel â neges llawer mwy rhyfeddol ati hi: Meddai’r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” (Luc 1:30-33)
Mae mewn rhywfaint o ddryswch ar y dechrau: “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?” Ond gyda geiriau Gabriel: “Daw’r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw”, er nad yw’r dirgelwch wedi ei symud yn llwyr, mae’n ymateb yn grediniol. Mae’n rhoi ei hunan yn nwylo’r Duw tragwyddol: “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” (Luc 1:34 – 38)
Gallwn ninnau ymateb i wyrth yr ymgnawdoliad yn anghrediniol fel Sachareias. Fe fu rhai yn ceisio cael gwared â thramgwydd y cenhedlu gwyrthiol, seren Bethlehem a phethau eraill yn hanes y geni trwy ddweud mai stori neu myth yw’r cyfan. Ond i ni sy’n credu, ‘dyw’r ffaith fod yna ddirgelwch yn y cyfan ddim yn golygu bod y digwyddiadau’n groes i reswm. Mae’n wir fod yna bethau y tu hwnt i’n rheswm ni, ond “ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.”
Gallwn ymateb mewn ffydd ac addoliad.
Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Fe anwyd Crist yn Geidwad byd;
Canwn garolau iddo Ef
A molwn ei gariad mawr o hyd;
Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Fe anwyd Crist yn Geidwad byd.