Ar y ddaear, tangnefedd

Mi fydda i weithiau yn diflasu ar wylio’r rhaglenni newyddion ar y teledu. Peidiwch â’m camddeall. Tydw i ddim yn ddifater am yr hyn sy’n digwydd yn y byd. Eto mae’r newyddion yn ymddangos mor undonnog. Gallwn broffwydo’n hawdd o flwyddyn i flwyddyn beth ddaw. Efallai fod yr enwau yn newid, ond yr un yw’r digwyddiadau – rhyfel yn ………… (Afghanistan, Syria, Llain Gaza, Fe gewch chi lenwi’r enw); Sgandal rhywle am …… (rhyw, twyll, llwgrwobrwyo); Llofruddiaeth yn …….. (Llundain, Machynlleth, Prestatyn). Mae’r cyfan mor predictable chwedl y Sais. Does dim y mae’n gwleidyddion, na’n haddysgwyr mwyaf dysgedig na’n arbenigwyr mwyaf cydnabyddedig wedi ei gynnig sy’n newid ein byd.
Os felly mae sôn am dangnefedd yn ymddangos yn ofer yn y byd rydym ni yn rhan ohono. Mae’n rhywbeth sy’n torri yn erbyn ein diwylliant a’n disgwyliadau yn llwyr. Tydi o’n ddim byd ond breuddwyd ffŵl – wishful thinking.

Ond dyna honiad yr efengyl. Mae allwedd gwir dangnefedd i’w ganfod mewn baban bach – Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. A gelwir ei enw ef ….. Tywysog tangnefedd”. (Eseia 9:6 Cyfieithiad William Morgan) Pwy fuasai’n meddwl fod hyn yn bosibl?

Ond i bob un sydd wedi dod i berthynas â’r bychan a anwyd i Mair, daw’n gwbl amlwg. Rhaid dechrau gyda’r heddwch sydd yn dod rhwng Duw â dyn. Heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr meddai’r garol. Yna mae’r heddwch fertigol hwnnw yn gorfod ymledu i heddwch llorweddol – rhwng dyn â’i gyd-ddyn.

Cefais i fy magu yn Aberystwyth, yn ymyl y môr, ac un peth gallwn ni ddweud am y môr – mae’n gyson aflonydd. Fel byd dyn mae rhyw gynnwrf ynddo drwy’r amser – Ond un noswaith, pan oedd môr Galilea mewn cynnwrf difrifol fe gododd Un ac ar ei orchymyn distawodd y storm a llonyddwyd y tonnau i gyd (Mathew 8:26). Dim ond yng Nghrist mae hyn yn bosibl.

“Gwyn eu byd y tangnefeddwyr” meddai Crist. Heddiw gadewch i ni wahodd Crist i mewn i’n calonnau er mwyn i ni fod yn offerynau er tangnefedd yn y byd aflonydd a therfysglyd hwn.

Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
Dan goron bydd diben ein Duw.
Yn frodyr i’n gilydd, drigolion y gwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;
Ein disgwyl yn Salem, i ganu yr anthem,
Ddechreuwyd ym Methlem, mae Ef.