Fe ddywedir weithiau wrthym ein bod yn ffôl i gredu yn y geni gwyrthiol. Y rheswm tyfodd y stori, medde nhw, oedd fod pobl y ganrif gyntaf yn bobl ofergoelus, tra’n bod ni yn byw mewn oes wyddonol. Onid oedd straeon yn frith am dduwiau Groeg yn dod i lawr i’r ddaear? Roedd angen rhywbeth spectacular er mwyn rhoi rhyw awdurdod i’r stori Gristnogol.

Mae sawl problem gyda chael gwared â’r geni gwyrthiol fel hyn. Yn gyntaf, roedd yr holl straeon am dduwiau Groeg yn wahanol i’r stori hon. Roedd y duwiau yn ymddangos fel dynion, ond rhith oedd hynny. Doedden nhw ddim yn dod yn ddynion go iawn. Mae hanes Iesu yn wahanol. Daeth y Gair yn gnawd – fe’i ganwyd yn naturiol. (Cenhedlu gwyrthiol yn hytrach na geni gwyrthiol ddylem ni fod yn sôn amdano). Fe fu’n rhaid iddo fynd drwy’r broses o dyfu, ac fe wyddai am y profiad o flinder, o frifo, o waedu ac o farw. Does yr un o’r chwedlau eraill fel hyn.

Problem arall yw honni fod yr oes honno yn un ofergoelus. Mae hynny’n honiad balch ac yn mynd yn erbyn y dystiolaeth.
Beth oedd ymateb Joseff pan glywodd fod Mair yn disgwyl plentyn? Gwyddai nad ef oedd tad y plentyn. Roedd hefyd yn gwybod sut oedd plant yn cael eu cynhyrchu. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio’n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. (Mathew 1:18-19) Dyna ymateb yn union fel y gallem ddisgwyl i rhywun yn ein dydd ni wneud. Doedd cenhedlu gwyrthiol ddim tamaid haws i’w gredu yn nyddiau Joseff. Nid mater bach oedd ei berswadio nad oedd Mair wedi bod yn anffyddlon iddo. Yn wir fe gymrodd berswâd angel i wneud iddo newid ei feddwl!

Mae’n wir ei bod yn anodd deall sut yn wir y daeth yr Ysbryd Glân i gysgodi dros Mair a chenhedlu’r Gair ynddi. Ond rydym yn byw bob dydd gyda phethau nad ydym yn eu deall yn iawn. Sôn ydym am Dduw yn dod i lawr i’n byd er ein mwyn, nid fel duwiau Groeg i chwarae, ond fel Gwaredwr, i gymryd ein beichiau a wynebu ein condemniad drosom.

Y wyrth fwyaf yw fod Duw wedi dewis ein caru fel hyn:
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16)

Diosgodd Crist ei goron
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion
O’i wir fodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog,
O’i wir fodd,o’i wir fodd,
Er codi pen yr euog
O’i wir fodd.