Neithiwr roeddwn i’n pregethu am dangnefedd – yr hyn mae’r Beibl yn sôn amdano fel rhywbeth mwy na diffyg rhyfel. Mae’n golygu ffynniant – y cyflwr hwnnw lle rydym yn gwybod fod popeth yn dda. Mae fel dod adref. Rydym i gyd yn gwybod rhywbeth am yr hiraeth am y tangnefedd hwnnw.

Ond sut fedrwn ni sôn am hyn mewn byd sy’n cynnwys Newtown Connecticut lle saethwyd 20 o blant diniwed chwech a saith mlwydd oed ddiwedd wythnos diwethaf? Does dim tangnefedd yn y Dwyrain Canol ychwaith. Mae’n rhywbeth sydd mor brin yn ein byd, er ein bod i gyd yn edrych a chwilio amdano.

Y rheswm fod tangnefedd mor brin yn ein byd yw fod pobl yn edrych yn amdano yn y lle anghywir. Meddyliwch am y wraig wrth ffynnon Jacob (Ioan 4) oedd yn credu byddai bywyd yn gyflawn trwy ddod o hyd i’r dyn iawn – ond cael ei siomi wnaeth hi. Neu beth am Sacheus dybiodd byddai cyfoeth yn ei fodloni, ond y wobr gafodd oedd unigrwydd a dirmyg gan ei genedl ei hun. Beth bynnag rydych chi’n rhoi eich ffydd ynddo fo i gyflawni eich bodolaeth – mae o’n mynd i’ch siomi chi.

Cân yr angylion uwch Bethlehem oedd “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.” (Luc 2:14) Addewid o dangnefedd i rai wrth fodd Duw oedd hwn. Pwy sydd wrth fodd calon Duw?
Gwyddom am Un y cyhoeddodd Duw fwy nag unwaith ei fodlonrwydd ynddo: A daeth llais o’r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” (Marc 1:11)
Gwyddom hefyd fod y Mab hwn wedi dweud: ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. (Ioan 6:40)

I’w roi o mewn ffordd arall, mae pawb sy’n edrych am dangnefedd (wellbeing) yn unrhywle heblaw am yn Iesu Grist yn mynd i fethu.
“God cannot give us a happiness and peace apart from Himself, because it is not there. There is no such thing.” C. S. Lewis

Gogoniant efengyl Iesu Grist yw fod y drws ar agor i ni gyd dderbyn ei heddwch. Ond tristwch ein byd yw ei fod yn credu mai pethau eraill ddaw â bodlonrwydd. A dyma’r condemniad, i’r goleuni ddod i’r byd ond i ddynion garu’r tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, (Ioan 3:19) Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu’r byd mohono. 11 Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. (Ioan 1:10 – 11)
Rhyw ddydd bydd Duw felly yn dweud wrth y rhai sy’n gwrthod Iesu “Gwneler dy ewyllys” – er i ti gael dy greu i brofi’r tangnefedd mwyaf a’r llawenydd mwyaf ynof fi, mi gei di dragwyddoldeb o droi dy gefn ar y daioni hwnnw, gan deimlo’r condemniad, y syched tragwyddol hwnnw, y newyn na all gael ei ddiwallu am dy fod yn gwrthod yr unig fwyd fedr lenwi dy enaid.
Ond nid felly mae hi fod gyda ni. Gadewch i ni drysori Tywysog Tangnefedd, ac annog eraill i ddod ato ar frys.

Am hyn, bechadur, brysia,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Ymofyn am y noddfa, fel yr wyt;
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny tyrd yn brydlon,
Fel yr wyt.