Pam credu?
Credu fel dod adref
Thema’r sylwadau hyn yw “pam credu?”. Un o’r rhesymau sydd gennyf dros gredu yw fod efengyl Iesu Grist yn ateb syched dwfn yn fy nghalon.
Un o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y degawdau diwethaf yn y Gorllewin yw nad yw pobl yn gallu bodloni ar gredu mai deunydd plaen – atomau a moleciwlau materol yn unig – ydym. Mae yna ryw hiraeth am yr “ysbrydol”. Mae yna reddf ynom sy’n golygu bod yna syched yn ein calonnau am fwy na bwyd, iechyd a diogelwch. (rhagor…)
Yn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl?
Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni.
Ydech chi wedi gwneud rhyw gynlluniau arbennig ar gyfer 2014? Mae dechrau’r flwyddyn yn adeg lle mae llawer yn edrych ymlaen at rywbeth. Rydym newydd gael y gwyliau Nadolig, ac wrth i’r rheini ddod i ben, rydym ninnau eisiau gallu cael rhywbeth newydd i feddwl amdano.
Mi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati.
Un o’r teitlau roddir i Iesu yn Eseia 9:6 yw “Cynghorwr rhyfeddol”. Mae hyn yn ymddangos yn nodwedd hynod o berthnasol i’n hoes ni. Rydym yn byw ar adeg lle mae cymaint o gwestiynau yn ein wynebu – mae technoleg newydd wedi rhoi’r gallu i ni wneud pethau na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu fyddai’n bosib.