Tymor yr Adfent 5

Heddiw dyma garol i chi feddwl amdani. Mae’n gosod stori’r geni o fewn cyd-destun y stori fawr – stori sy’n cychwyn cyn bod amser, ond sy’n arwain ymlaen at y geni ym Methlehem, ymlaen at y Groes, ac yna at heddiw, a’r cyfle sydd gennym ni i ymateb i wahoddiad grasol y baban a ddywedodd flynyddoedd wedi ei eni: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.”  (Mathew 11:28-30). Gellir ei chanu ar dôn Poland (Caneuon Ffydd 373, neu Praise 361) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 4

Tymor o edrych ymlaen yw ‘r Adfent. Mae plentyn yn edrych ymlaen at gael yr anrheg fydd yn rhoi oriau o bleser iddo – pleser nad yw’n ei fwynhau ar hyn o bryd. Yna mae’r rheini sy’n edrych ymlaen at gael y teulu i gyd yn dod adref, a bydd gwacter eu hunigrwydd yn cael ei lenwi dros dro beth bynnag. Wedyn mae eraill yn edrych ymlaen at gael newid oddi wrth y bwyd cyffredin, bob dydd a gwledda ar ddanteithion dros yr ŵyl. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 3

Os oedd tarddiad stori’r geni yn nhragwyddoldeb, daw yn angenrheidiol unwaith dechreuwn edrych ar hanes y ddynolryw. Yn Genesis gwelwn Dduw yn creu’r bydysawd allan o’i gariad, a dyn (yn wryw ac yn fenyw) yn goron y greadigaeth honno. Go brin y gallwn ddychmygu yr hyfrydwch a brofai Adda ac Efa wrth fod mewn tangnefedd perffaith gyda gweddil y greadigaeth, a gyda’u Crëwr. (rhagor…)

Tymor yr Adfent

Yn draddodiadol roedd yr Adfent yn dymor o baratoi – ac yn sicr rydym fel pe byddem yn gweld y paratoadau ar gyfer y Nadolig yn dod yn gynharach bob blwyddyn. Bu adeg pan nad oedd y goeden yn mynd i fyny tan yr wythnos cyn yr ŵyl. Eleni mae’n syndod faint sydd wedi nodi ar twitter eu bod wedi gosod y goeden yn ei lle ar y cyntaf o’r mis. Heddiw bu Siôn Corn yn ymweld â llu o archfarchnadoedd, ac mae’r jingles Nadoligaidd yn y siopau ers tro. (rhagor…)