Tymor yr Adfent 17

Neithiwr roeddwn i’n pregethu am dangnefedd – yr hyn mae’r Beibl yn sôn amdano fel rhywbeth mwy na diffyg rhyfel. Mae’n golygu ffynniant – y cyflwr hwnnw lle rydym yn gwybod fod popeth yn dda. Mae fel dod adref. Rydym i gyd yn gwybod rhywbeth am yr hiraeth am y tangnefedd hwnnw. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 16

Mae’n ddydd Sul felly dyma rywbeth syml heddiw ar gyfer ein haddoliad. Dyma garol arall ar eich cyfer. Roedd hon yn anrheg Nadolig gen i i’r eglwys yma ym Mangor y llynedd, ac fe’i canwyd ar fore Nadolig i’r dôn Epiphany (Caneuon Ffydd 383 neu Praise 274) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 15

Ydi hi’n anodd i chi wahodd rhywun i gyfarfod yn y capel? Mae’n wir fod ymateb pobl i wahoddiadau’n gallu bod yn negyddol iawn. Mae ychydig yn wahanol adeg y Nadolig, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi rhyw sing-song o garolau un waith y flwyddyn.

Beth am atgoffa’n hunain o’r doethion welodd Seren Bethlehem fel gwahoddiad i ymateb iddo trwy deithio’n bell (wyddom ni ddim yn iawn pa mor bell) er mwyn dod o hyd i’r baban yn y preseb. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 14

“Mind the gap.” Ryden ni gyd wedi clywed y geiriau wrth i’r tren nesáu at yr orsaf. Os na wyliwn, mae perygl i ni cael ein hanafu’r ddifrifol. Rhaid camu dros y bwlch o’r tren i’r platfform.

Mae hyn yn ddarlun o sut gall ein ffydd fel Cristnogion fod. Un peth yw cael ffydd yn y pen – rhyw ffydd ymenyddol yn unig. Er i ni efallai fod â ffydd fyw ar un adeg mae’n hawdd iddo ddirywio, nid yn gymaint i fod yn ffydd farw, ond yn rhywbeth sy’n llai na ddylai fod. Mae yna fwlch yn gallu codi rhwng yr hyn a gredwn, a’n profiad o ddydd i ddydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 13

Fe ddywedir weithiau wrthym ein bod yn ffôl i gredu yn y geni gwyrthiol. Y rheswm tyfodd y stori, medde nhw, oedd fod pobl y ganrif gyntaf yn bobl ofergoelus, tra’n bod ni yn byw mewn oes wyddonol. Onid oedd straeon yn frith am dduwiau Groeg yn dod i lawr i’r ddaear? Roedd angen rhywbeth spectacular er mwyn rhoi rhyw awdurdod i’r stori Gristnogol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 11

 “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.”

Un o’r digwyddiadau hynny yn stori’r Nadolig cyntaf sydd wedi creu trafod mawr dros y blynyddoedd yw ymddangosiad y seren. Beth oedd hon? Ai comet, fel un Halley? Neu efallai mai cyfuniad o ddwy blaned yn ymddangos mor agos at ei gilydd fel bod eu golau’n cyfuno a disgleirio’n llachar? Mae’n ddirgelwch. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 10

Gair arall rydym ni fel Cristnogion yn ei gysylltu gyda gŵyl y Nadolig yw “Dirgelwch”. Mae yna bethau sydd y tu hwnt i’n deall ni ynglŷn â digwyddiadau Bethlehem. Beth welodd y sêr ddewiniaid, a beth barodd iddyn nhw deithio’r holl ffordd i Jerwsalem ac yna i Fethlehem? Sut olwg oedd ar yr angylion ddaeth i gyhoeddi’r newyddion i’r bugeiliaid? A’r dirgelwch mwyaf – y geni gwyrthiol, gyda Mair yn disgwyl plentyn wedi ei genhedlu o’r Ysbryd Glân. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 9

Un o eiriau mawr yr wythnosau hyn yw “Paratoi”. Yr her i ni yw gwneud yn siwr ein bod wedi paratoi yn ysbrydol. Er nad oes gwahaniaeth ysbrydol rhwng un diwrnod a’r  llall, boed yn ddydd Nadolig, yn Sul y Pasg, neu’n ddiwrnod cyffredin ym mis Gorffennaf, mae’r adeg yma’n rhoi cyfle i ni oedi a pharatoi ein calonnau eto i Grist gael bod yn Arglwydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 8

I lawer mae’r Nadolig yn adeg i ddianc oddi wrth y byd go iawn am ychydig – byd gwaith, byd problemau economaidd, byd cyfrifoldebau. Mae yna ychydig o ddyddiau yn y flwyddyn beth bynnag pryd y cawn anghofio am y pethau hyn i gyd.

Rhan o newyddion da yr ŵyl i Gristnogion, ac i bawb arall pe byddent yn ei dderbyn, yw fod Duw wedi disgyn o’i nefoedd i wynebu y byd go iawn – y byd rydym ni yn byw ynddo. Immanuel – Duw gyda ni – yw thema fawr y dathlu. Datguddiodd Duw ei hun fel hyn i’w bobl yn gyson trwy’r oesoedd. (rhagor…)