Pam credu?
Credu Ymarferol?
Cwestiwn arall i ni ei ystyried wrth feddwl am yr hyn a gredwn yw hwn: A fedra i fyw gyda’m cred? Beth yw canlyniad credu fel y gwna’r Atheistiaid Newydd ac a oes modd byw yn ôl y gred honno?
Yn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994)) (rhagor…)

Yn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl?
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall.
Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni.
Ydech chi wedi gwneud rhyw gynlluniau arbennig ar gyfer 2014? Mae dechrau’r flwyddyn yn adeg lle mae llawer yn edrych ymlaen at rywbeth. Rydym newydd gael y gwyliau Nadolig, ac wrth i’r rheini ddod i ben, rydym ninnau eisiau gallu cael rhywbeth newydd i feddwl amdano.
Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg.
Mae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion.
Mi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati.
Un o’r ffilmiau hynny sy’n cael eu dangos ar y teledu yn rheolaidd dros y Nadolig yw Home Alone. Mae teulu yn mynd i ffwrdd ar wyliau gyda’i gilydd, ond mae nhw’n anghofio am Kevin sy’n cysgu’n hwyr. Mae yntau wedi ei adael gartref felly ac yn cael llawer o hwyl ac antur yn diogelu’r tŷ rhag lladron sy’n ceisio targedu tai sy’n wag dros dymor yr ŵyl. Mae’r ffilm wrth gwrs yn ffantasi llwyr, a llawer yn mwynhau ei gweld. Ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth na ddylai Kevin ddim fod wedi cael ei adael. Tyden ni ddim fod ar ein pen ein hunain.