Tymor yr Adfent 15

Ydi hi’n anodd i chi wahodd rhywun i gyfarfod yn y capel? Mae’n wir fod ymateb pobl i wahoddiadau’n gallu bod yn negyddol iawn. Mae ychydig yn wahanol adeg y Nadolig, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi rhyw sing-song o garolau un waith y flwyddyn.

Beth am atgoffa’n hunain o’r doethion welodd Seren Bethlehem fel gwahoddiad i ymateb iddo trwy deithio’n bell (wyddom ni ddim yn iawn pa mor bell) er mwyn dod o hyd i’r baban yn y preseb. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 14

“Mind the gap.” Ryden ni gyd wedi clywed y geiriau wrth i’r tren nesáu at yr orsaf. Os na wyliwn, mae perygl i ni cael ein hanafu’r ddifrifol. Rhaid camu dros y bwlch o’r tren i’r platfform.

Mae hyn yn ddarlun o sut gall ein ffydd fel Cristnogion fod. Un peth yw cael ffydd yn y pen – rhyw ffydd ymenyddol yn unig. Er i ni efallai fod â ffydd fyw ar un adeg mae’n hawdd iddo ddirywio, nid yn gymaint i fod yn ffydd farw, ond yn rhywbeth sy’n llai na ddylai fod. Mae yna fwlch yn gallu codi rhwng yr hyn a gredwn, a’n profiad o ddydd i ddydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 11

 “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.”

Un o’r digwyddiadau hynny yn stori’r Nadolig cyntaf sydd wedi creu trafod mawr dros y blynyddoedd yw ymddangosiad y seren. Beth oedd hon? Ai comet, fel un Halley? Neu efallai mai cyfuniad o ddwy blaned yn ymddangos mor agos at ei gilydd fel bod eu golau’n cyfuno a disgleirio’n llachar? Mae’n ddirgelwch. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 10

Gair arall rydym ni fel Cristnogion yn ei gysylltu gyda gŵyl y Nadolig yw “Dirgelwch”. Mae yna bethau sydd y tu hwnt i’n deall ni ynglŷn â digwyddiadau Bethlehem. Beth welodd y sêr ddewiniaid, a beth barodd iddyn nhw deithio’r holl ffordd i Jerwsalem ac yna i Fethlehem? Sut olwg oedd ar yr angylion ddaeth i gyhoeddi’r newyddion i’r bugeiliaid? A’r dirgelwch mwyaf – y geni gwyrthiol, gyda Mair yn disgwyl plentyn wedi ei genhedlu o’r Ysbryd Glân. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 8

I lawer mae’r Nadolig yn adeg i ddianc oddi wrth y byd go iawn am ychydig – byd gwaith, byd problemau economaidd, byd cyfrifoldebau. Mae yna ychydig o ddyddiau yn y flwyddyn beth bynnag pryd y cawn anghofio am y pethau hyn i gyd.

Rhan o newyddion da yr ŵyl i Gristnogion, ac i bawb arall pe byddent yn ei dderbyn, yw fod Duw wedi disgyn o’i nefoedd i wynebu y byd go iawn – y byd rydym ni yn byw ynddo. Immanuel – Duw gyda ni – yw thema fawr y dathlu. Datguddiodd Duw ei hun fel hyn i’w bobl yn gyson trwy’r oesoedd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 7

Dyma ni wythnos i mewn i fis Rhagfyr yn barod. Mae’r dyddiau yn brysio heibio a’r Nadolig yn dod yn nes. Mewn termau gwyddonol gallwn fesur amser – mae yna gysondeb gyda phob eiliad yn gyfartal â phob eiliad arall. Ond i ni mae amser yn gallu llusgo – pan fyddwn yn eistedd mewn ciw traffig neu yn ‘stafell aros y deintydd. Neu gall amser frysio heibio pan fyddwn â llu o bethau i’w gwneud a dim digon o funudau yn y dydd i’w cyflawni. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 6

Mae’r Hen Destament yn edrych ymlaen at yr Un oedd i ddod. Roedd Iesu yn gallu ceryddu’r disgyblion am fethu gweld hyn. Cymrwch chi’r ddau ar y ffordd i Emaus wedi’r croeshoelio a’r atgyfodiad. Ynghanol eu dryswch a’u penbleth, tydyn nhw ddim yn gallu gwneud trefn o ddigwyddiadau’r dyddiau a fu. Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?” A chan ddechrau gyda Moses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.” (Luc 24:25-27) Sut ydym fod i weld Crist yn y llyfrau hyn ysgrifenwyd gannoedd o flynyddoedd a mwy cyn i’r baban gael ei eni ym Methlehem? (rhagor…)