Adfent 2015
Tymor yr Adfent 15
Enw arall a roddwyd i’n Harglwydd ni yw hwnnw a geir ar ddechrau efengyl Ioan – Y Gair. Mae’n wir fod yr union air “logos” yn y Groeg yn golygu llawer mwy na dim ond “gair”. Ond gallai Ioan ddim fod wedi dewis enw mwy addas ar gyfer ein hoes ni – oes cyfathrebu – lle mae geiriau yn llenwi tonfeddi’r awyr a’r we yn fwy nag erioed. (rhagor…)
Darllenwch Eseia 9:2-7
Darllenwch Genesis 3:14-15; a Hebreaid 2:14-18
Darllenwch Luc 2:1-7
Darllenwch Luc 2:1-7
Mae’r llifogydd mawr yng ngogledd Lloegr wedi bod yn llenwi’r newyddion ers y penythnos. Pwy all beidio â chydymdeimlo â’r llaweroedd sydd yn gorfod ad-drefnu pob dim wedi’r llanast i gyd. Un o’r pethau sydd wedi fy nharo ydi’r arfer newydd o roi enw i’r storm. Bellach nid y tywydd sy’n gyfrifol, ond Desmond. Mae personoli’r digwyddiad rhywsut yn ei gwneud hi’n haws mynegi ein dicter, ein siom, ein rhwystredigaeth. Gallwn enwi ein gelyn bellach. (Ond druan o unrhyw un sy’n dwyn yr enw “Desmond”!)
‘Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.’
I lawer ohonom mae’r Nadolig yn dwyn atgofion i ni o’n plentyndod. Roedd y cynnwrf wrth i ni ddysgu geiriau’r ddrama Nadolig, neu wrth weld y nwyddau yn y siopau a pharatoi’r addurniadau yn gosod naws arbennig i’r tymor.
“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu.’