Albania 10

Mae Mosque heb fod yn bell o’r gwesty lle rwyf yn aros, a bob bore am bump caf fy neffro gan yr alwad i weddi sy’n seinio o dŵr y Mosque trwy uchel-seinydd. Er fod Zef yn mynnu fy atgoffa nad yw’r mwyafrif o Fwslemiaid yn y wlad yn ymarfer eu crefydd o gwbl, a bod yr Eglwys Uniongred yn y de, a’r Eglwys Gatholig yn y gogledd mor gryf ag Islam, mae’r alwad i weddi yn fy atgoffa nad yw ein brwydr yn erbyn cig a gwaed, ond yn un ysbrydol i’w hennill ar ein gliniau gerbron Duw. (rhagor…)

Albania 8

Mae pobl sy’n ymweld ag Albania yn cwyno m amryw bethau. Un ydi cyflwr y ffyrdd, sy’n llawn tyllau (er fod hwnnw yn gwellla). Peth arall yw cyflwr y gyrru (sy’n gwella dim. Ddoe fe deithiais yn ôl dros y mynyddoedd mewn bws mini oedd fod yn cario 8 o deithwyr. Roedd deuddeg ohonom ynddo, a thrwy drugaredd roedd y ffenestri wedi stemio, fel nad oeddwn yn gallu gweld y dibyn wrth ochr y lôn mewn mannau. Doedd neb yn gwisgo gwregys diogelwch, a’r gyrrwr yn treulio hanner yr amser ar ei ffôn symudol). (rhagor…)

Albania 7

Nos Fercher, wedi’r cyfarfod i rannu’r efengyl, cefais baned gyda Ron, y cenhadwr o’r Unol Daleithiau, sydd yma ers tro. Symudodd ef a’i wraig i Sbaen i ddechrau fel cenhadon, ond ar ôl pum mlynedd daeth drws i Albania ac yma maen nhw wedi bod ers hynny. Mae ganddynt naw o blant (dwi’n credu), a phump ohonyn nhw wedi priodi ag Albaniaid bellach, er bod tair o’r rheini wedi symud efo’u gwŷr yn ol i UDA erbyn hyn.Byddan nhw’n symud yn ôl eu hunain fis Medi oherwydd gofalon teuluol, ond mae’n amlwg nad ydynt yn edrych ymlaen yn ormodol at wneud hynny. (rhagor…)

Albania 5

Mae gwaith yr efengyl yn aml yn gyfuniad o bethau gwych a phethau sy’n peri rhwystredigaeth. Dydd Llun roedd pob dim fel petai yn cymryd dwy waith gymaint o amser ag y dylai. Roeddem yn hwyr yn gadael Tirana oherwydd fod Zef angen gwneud pethau. Wedi taith ddiddorol dros y mynyddoedd ar hyd lonydd sy’n codi brawiau ar y dewraf o yrrwyr, dyma gyrraedd Elbasan, a chyn pen dim roedd Zef ar goll yn crwydro strydoedd cefn y ddinas. (rhagor…)

Albania 2

Bu heddiw yn ddiwrnod o orffwys wedi’r daith yma, a pharatoi ar gyfer yr wythnos nesaf. Daeth Zef a’r teulu draw i Qendra Stefan yn y bore i gael brecwast efo mi. Roedd yn gyfle i siarad dipyn am sefyllfa’r wlad.

Bu i’r wlad ddioddef llawer dros y blynyddoedd. Dan arweiniad Enver Hoxha aeth yn fwy a mwy unig, wrth iddo gyhuddo gwahanol lywodraethau comiwnyddol o fradychu eu hegwyddorion. Roedd yn siwr fod Nato yn disgwyl am esgus i ymosod ar y wlad. (rhagor…)

Albania 1

Dyma fi wedi cyrraedd Gwlad yr Eryr, (Neu Eryri os mynnwch), sef ystyr Shqiperia – yr enw sydd gan y bobl ar eu gwlad eu hunain. Roedd y daith yma’n rhyfeddol o ddi-drafferth, gan adael Heathrow am 6 y bore, a seibiant o dair awr ym maes awyr Vienna – cyfle i gael Paned a thamaid o Apfel Strudel – cyn teithio ymlaen i Tirana, prif-ddinas Albania.

Ni chymrodd lawer i mi gofio sut mae pobl y wlad hon yn gyrru! Roedd Zef yn y maes awyr i’m cyfarfod, a daeth â mi trwy ganol y brifddinas i westy Qendra Stefan, lle byddaf yn aros am y tri diwrnod nesaf. (rhagor…)