Diniwed fel Colomennod?

Ryden ni’n clywed pobl yn gofidio yn aml y dyddiau hyn nid yn unig fod Cristnogaeth yn ein gwlad yn colli ei dir, ond fod Cristnogion yn wynebu mwy a mwy o anhawsterau – mae rhai yn cwyno os fydd Cristion yn dangos ei ffydd yn rhy amlwg yn y lle gwaith trwy wisgo croes. Mae un arall wedi methu cael dyrchafiad, neu hyd yn oed wedi cael ei ddiraddio yn ei swydd oherwydd ei agwedd at rywioldeb. Mae safonau moesol yn y gymdeithas yn newid, a Christnogion weithiau yn cael eu cyhuddo o ragfarn dall anoddefgar drwy fynu bod hyn yn anghywir. (rhagor…)

Nadolig 12

Dyma ni wedi cyrraedd dydd gŵyl Ystwyll, sy’n nodi diwedd tymor y Nadolig. Dathlwyd y dydd hwn i gofio’r doethion o’r Dwyrain yn dod i addoli’r Brenin yn y crud. Rydym ninnau wedi cael cyfle dros bump wythnos i feddwl am arwyddocád y wyrth fwyaf erioed – Duw ymddangosodd yn y cnawd. (rhagor…)

Nadolig 11

Ddoe fe ddechreuais i feddwl am ymgnawdoliad Crist fel patrwm ar ein cyfer ni: Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” (Ioan 20:21) Mae yna bethau cwbl unigryw am y ffordd yr oedd y Tad yn anfon ei Fab i’r byd. Does dim modd y gallwn ni dalu iawn am bechod y byd. Ond mewn rhai ffyrdd mae modd i ni ddilyn patrwm y Gwaredwr. (rhagor…)

Nadolig 10

Wrth i ni nesáu at ddiwedd deuddeg diwrnod y Nadolig, gyda’r addurniadau’n cael eu cadw, y gacen wedi diflannu, yr anrhegion wedi colli ychydig o’u sglein a’r drefn arferol yn ail-gychwyn yn ein bywyd, yden ni hefyd yn anghofio’r hyn ddigwyddodd ym Methlehem? Neu oes yna ganlyniadau i’w gweld yn ein bywyd sy’n mynd i barháu i’r misoedd nesaf? (rhagor…)

Nadolig 9

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

Fel hyn mae’r Pregethwr yn cychwyn un o gerddi enwoca’r Beibl. (Pregethwr 3) Ond i’n hoes brysur ni, y gŵyn ydi ein bod mor brysur nad oes modd dod o hyd i amser i bob gorchwyl. Mae blwyddyn newydd wedi dechrau, a 2012 drosodd. Mae cyfleon y llynedd wedi mynd, a rheidrwydd i geisio cyflawni mwy eleni. (rhagor…)

Nadolig 8

Mae diwrnod yr addunedau mawr yma unwaith eto. Mae’r cyntaf o Ionawr wedi cyrraedd. Mae 2012 drosodd a bydd rhaid arfer gyda rhoi 2013 ar llythyrau, sieciau a ffurflenni. Dwi’n siwr bydd llawer yn gwneud rhyw addunedau am golli pwysau, neu rhoi heibio ysmygu, neu wneud mwy o ymarfer corff. (rhagor…)

Nadolig 7

Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn mae’n beth naturiol i ni edrych yn ôl ar y deuddeg mis a aeth heibio, gan geisio tafoli’r cwbl sydd wedi digwydd. Yn gyffredinol yn y wlad mae llawer wedi ei gweld hi fel blwyddyn i’w chofio. Bu Brenhines Lloegr yn dathlu ei jiwbilî; Bu’r gemau Olympaidd a Paralympaidd yn llwyddiant ysgubol, gan godi ysbryd llawer o bobl y wlad ynghanol yr argyfwng economaidd dwys sydd wedi gafael ynom. (rhagor…)

Nadolig 6

Mae’n rhaid cyfaddef nad gwasanaeth crefyddol sydd ym meddyliau mwyafrif o bobl ein cymdeithas heddiw. Gwelir mwy yn heidio am y siopau nag i’r capeli. Mae’r dyddiau pan nad oedd yn gyfreithlon i agor siopau a y Sul wedi hen fynd heibio. Ar ben hynny yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer yn chwilio am fargen – mae’r sales yn denu mwy nag arfer. (rhagor…)

Nadolig 5

Ddoe fe wnes i gyfeirio ein meddyliau at y ffordd mae Duw yn edrych arnom ni. Heddiw rydw i am barhau ar yr un thema, ond am newid y pwyslais ychydig.

Mae Duw yn ein gweld ni yn nhermau ei allu Ef i’n trawsnewid a’n gwneud ni yn debyg i Grist. Mae’r rhai sydd wedi credu yn Iesu Grist wedi eu troi oddi ar lwynr i ddinystr at lwybr bywyd. Mae Ioan yn ei osod fel hyn yn ei lythyr cyntaf: Gwelwch pa fath gariad y mae’r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym……. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. (1 John 3:1-2) (rhagor…)