Nadolig 9

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

Fel hyn mae’r Pregethwr yn cychwyn un o gerddi enwoca’r Beibl. (Pregethwr 3) Ond i’n hoes brysur ni, y gŵyn ydi ein bod mor brysur nad oes modd dod o hyd i amser i bob gorchwyl. Mae blwyddyn newydd wedi dechrau, a 2012 drosodd. Mae cyfleon y llynedd wedi mynd, a rheidrwydd i geisio cyflawni mwy eleni. (rhagor…)

Nadolig 8

Mae diwrnod yr addunedau mawr yma unwaith eto. Mae’r cyntaf o Ionawr wedi cyrraedd. Mae 2012 drosodd a bydd rhaid arfer gyda rhoi 2013 ar llythyrau, sieciau a ffurflenni. Dwi’n siwr bydd llawer yn gwneud rhyw addunedau am golli pwysau, neu rhoi heibio ysmygu, neu wneud mwy o ymarfer corff. (rhagor…)

Nadolig 7

Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn mae’n beth naturiol i ni edrych yn ôl ar y deuddeg mis a aeth heibio, gan geisio tafoli’r cwbl sydd wedi digwydd. Yn gyffredinol yn y wlad mae llawer wedi ei gweld hi fel blwyddyn i’w chofio. Bu Brenhines Lloegr yn dathlu ei jiwbilî; Bu’r gemau Olympaidd a Paralympaidd yn llwyddiant ysgubol, gan godi ysbryd llawer o bobl y wlad ynghanol yr argyfwng economaidd dwys sydd wedi gafael ynom. (rhagor…)

Nadolig 6

Mae’n rhaid cyfaddef nad gwasanaeth crefyddol sydd ym meddyliau mwyafrif o bobl ein cymdeithas heddiw. Gwelir mwy yn heidio am y siopau nag i’r capeli. Mae’r dyddiau pan nad oedd yn gyfreithlon i agor siopau a y Sul wedi hen fynd heibio. Ar ben hynny yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer yn chwilio am fargen – mae’r sales yn denu mwy nag arfer. (rhagor…)

Nadolig 5

Ddoe fe wnes i gyfeirio ein meddyliau at y ffordd mae Duw yn edrych arnom ni. Heddiw rydw i am barhau ar yr un thema, ond am newid y pwyslais ychydig.

Mae Duw yn ein gweld ni yn nhermau ei allu Ef i’n trawsnewid a’n gwneud ni yn debyg i Grist. Mae’r rhai sydd wedi credu yn Iesu Grist wedi eu troi oddi ar lwynr i ddinystr at lwybr bywyd. Mae Ioan yn ei osod fel hyn yn ei lythyr cyntaf: Gwelwch pa fath gariad y mae’r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym……. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. (1 John 3:1-2) (rhagor…)

Nadolig 3

Fe gefais fy nghyfeirio at gân ar y we yr wythnos ddiwethaf oedd yn un o’r parodïau ar ganeuon traddodiadol y Nadolig. (http://www.youtube.com/watch?v=ZoINm3ZWlAE) Mae’r pennill cyntaf fel a ganlyn:

Oh, I just got a message from old Saint Nick way up in Christmas land;
And he said the toys for good girls and boys are being made as planned;
There’s a truck for little Billy, and a dolly for Molly dear,
But you ain’t getting diddly squat, ‘cos you really messed up this year! (rhagor…)

Nadolig 2

Yn draddodiadol sonir am ddeuddeg diwrnod y Nadolig, felly dyma barhau gyda’r myfyrdodau.

A gawsoch chi eich bodloni ddoe? Dwi’n siwr bod llawer iawn o blant wrth eu bodd gyda’u anrhegion Nadolig, ac mae’n syndod pa mor hael y gallwn fod wrth ddangos i’n anwyliaid ein bod yn cofio amdanyn nhw adeg gŵyl y geni. Ac eto… (rhagor…)

Nadolig

Nadolig Llawen a bendithiol i bob un sy’n darllen y cofnod hwn. Heddiw ar ddydd Nadolig wrth i ni gofio ein Gwaredwr yn cael ei eni, dyma gywydd i chi gael llawenhau yng ngorfoledd y diwrnod. Gallwch hefyd edrych yn ôl dros y pum diwrnod ar hugain diwethaf i weld myfyrdodau ar ystyr y Nadolig. (rhagor…)