Pa dîm ydym i chwarae iddo?

imageBob Mis Ionawr un o’r digwyddiadau sy’n dwyn bryd dilynwyr pêl-droed yw’r cyfle geir i glybiau brynu a gwerthu chwraewyr – y “transfer window”. Er mwyn gosod trefn ar bethau dim ond ar adegau arbennig bydd chwaraewyr yn cael newid clybiau. Mae yna ddyfalu felly pwy gaiff fynd i’r clybiau mawr, a faint o arian gaiff ei dalu amdanyn nhw. Gyda’r gystadleuaeth rhwng y clybiau a’u dilynwyr mor frwd, mae ambell i chwaraewr yn cael ei drin yn bur hallt gan gefnogwyr os yw’n symud o un clwb at un arall sy’n cystadlu yn yr un gynghrair. Mae newid tîm yn beth mawr ym myd pêl droed. (rhagor…)

Nadolig 2014, 11

imageOherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; (1 Thesaloniaid‬ ‭4‬:‭16‬ BCN)

Mae heddiw yn ddiwrnod i ffarwelio yn ein tŷ ni. Mae ein merch, Heledd, sydd wedi bod adref am bythefnos dros ŵyl y Nadolig, yn dychwelyd i Slovakia, lle mae’n gweithio i sefydlu Undebau Cristnogol yn y prifysgolion yno. Bu’n braf iawn ei chael adref, ond mae’n gorfod mynd yn ôl yno heddiw, ac wedi brecwast fe fyddwn yn mynd â hi i faes awyr Manceinion. (rhagor…)

Nadolig 2014, 10

imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)

Nadolig 2014, 9

image“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN)

Rydym wedi bod yn dathlu’r ffaith fod Duw wedi dod i’n byd mewn baban bach. Dyma un o’r pethau sy’n gwneud Cristnogaeth yn unigryw. Er i lawer o bobl geisio honni fod dilynwyr cynnar Iesu wedi ceisio dwyn syniad o chwedloniaeth y Groegiaid ac eraill am y duwiau yn dod i lawr i fyd dynion, eto does yna’r un o’r chwedlau, nac un o grefyddau eraill y byd ychwaith yn honni’r hyn a wna Cristnogion. Daeth y Gair yn gnawd. Nid dod mewn rhith. Daeth Duw yn un ohonom ni. Mae’r syniad yn un sy’n ymestyn ein meddyliau wrth i ni geisio ei werthfawrogi. (rhagor…)

Nadolig 2014, 7 Blwyddyn newydd dda

imageYr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser……. A’r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem. (‭Luc‬ ‭2‬:‭36‬, 38 BCN)

Mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Diflannodd 2014 dros y gorwel, a dechreuodd 2015. Mi fu rhai ohonoch ar eich traed i weld y flwyddyn newydd i mewn mae’n siwr. Wrth gwrs, does dim gwir wahaniaeth rhwng un diwrnod na’r llall. Eto mae llawer yn cymryd y diwrnod newydd hwn yn gyfle i feddwl am ddechrau newydd. Mae’n adeg pryd y gallwn osod y flwyddyn a fu, gyda’i llwyddiant a’i phroblemau, ei llawenydd a’i siom, o’r neilltu. (rhagor…)

Nadolig 2014, 5

WilliamHolmanHuntLightGwyn ei fyd y sawl ….. sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. (‭Y Salmau‬ ‭1‬:‭1-2‬ BCN)

Mae diwedd y flwyddyn yn dod, ac o fewn ychydig byddwn yn troi cefn ar 2014 am byth. Wrth gwrs, does yna ddim gwahaniaeth ar un olwg rhwng un diwrnod ag un arall. Ond mae modd defnyddio’r newid o un flwyddyn i’r llall fel man i nodi dechrau newydd. Dyna pam bydd pobl yn gwneud addunedau flwyddyn newydd. Mae’n gyfle i osod rhai pethau yn gadarn yn y gorffennol, a gosod patrwm gwahanol ar waith. (rhagor…)

Nadolig 2014 – Y Seren

images (10)A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭10‬ BCN)

Mae llawer o ddyfalu wedi bod am seren Bethlehem. Beth yn union welod y Doethion? Ai comed oedd, megis comed Halley? Neu tybed ai dwy blaned â’u golau yn cyd-daro i ymddangos fel seren arbennig o ddisglair. Bu’r astronomyddion yn edrych ar batrymau’r sêr a cheisio dyfalu pryd yn union y bu hyn. (Mae cytundeb fod y rhai fynnodd yn y 6ed ganrif ar ddyddiad geni Crist yn anghywir.) (rhagor…)

Nadolig 2014

ChristmasOnd yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. (‭Luc‬ ‭2‬:‭19‬ BCN)

“Digwyddodd, darfu megis seren wib.” Geiriau R. Williams Parry yn ei soned i’r llwynog, ond gallai’r geiriau fod yn cyfeirio at y Nadolig. Daeth y diwrnod mawr, ac heddiw wrth fynd am dro gyda’r ci, roedd ceir wedi parcio tu allan i un o’r siopau oedd yn agor yn gynnar. Dyma ddychwelyd i fywyd arferol. Gallwn gladdu hanes y Nadolig am flwyddyn arall. (rhagor…)