Tymor yr Adfent 14

imageDarllenwch Eseia 9:2-7

Os oeddem ddoe yn meddwl am y baban ym Methlehem fel yr had – un ohonom ni, mae yn wahanol i ni hefyd. Mae geiriau Eseia yn agor y drws i ni weld mwy. Mae cerddoriaeth wych Handel yn ei oratorio yn gorfoleddu yn y seithfed adnod, gan adeiladu at y gair “Wonderful” sy’n dod fel bloedd ogoneddus gan y côr. Gadewch i ni aros gydag un o’r enwau yma heddiw: y Duw cadarn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 13

imageDarllenwch Genesis 3:14-15; a Hebreaid 2:14-18

Un o’r gorchwylion cyntaf wrth i blentyn gael ei eni yw dewis enw iddo. Mae pob math o resymau yn gallu bod ym meddyliau’r rhieni wrth wneud eu dewis – gall fod oherwydd eu bod yn hoffi sŵn yr enw. Yn aml bydd y plentyn yn cael ei enwi ar ôl rhywun – a gobaith y rhieni yw y bydd yn dod yn debyg i’r person hwnnw mewn rhyw ffordd – bydd yn “byw i fyny i’r enw” chwedl y Sais. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 10

Edrych i lawr ar yr Areopagus o'r Acropolis

Edrych i lawr ar yr Areopagus o’r Acropolis

Darllenwch Genesis 12:1-2

Rwyf yn Athen yr wythnos hon yn cymryd rhan mewn cynhadledd lle mae tua wythdeg ohonom yn dilyn chwe ffrwd gwahanol o astudio. Rwyf fi mewn criw o wyth yn edrych ar sut mae dadlau o blaid y ffydd Gristnogol, a hynny men ffordd sy’n onest, yn ddifrifol, gan geisio codi cwestiynau difrifol yn wyneb y gwrthwynebiad sydd i’r ffydd yn ein dyddiau ni. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 8

imageMae’r llifogydd mawr yng ngogledd Lloegr wedi bod yn llenwi’r newyddion ers y penythnos. Pwy all beidio â chydymdeimlo â’r llaweroedd sydd yn gorfod ad-drefnu pob dim wedi’r llanast i gyd. Un o’r pethau sydd wedi fy nharo ydi’r arfer newydd o roi enw i’r storm. Bellach nid y tywydd sy’n gyfrifol, ond Desmond. Mae personoli’r digwyddiad rhywsut yn ei gwneud hi’n haws mynegi ein dicter, ein siom, ein rhwystredigaeth. Gallwn enwi ein gelyn bellach. (Ond druan o unrhyw un sy’n dwyn yr enw “Desmond”!) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 7

image‘Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.’

Darllenwch Ioan 1:1-14

Heddiw rwyf ar fy ffordd o Fangor (Athen y gogledd) i ddinas Athen yng ngwlad Groeg. Mae’n daith oedd n golygu dal y trên ddoe a dod i Lundain, a’r bore ma rwy’n dal awyren i hedfan draw o lawogydd ynysoedd Prydain i heulwen (gobeithio) Môr y Canoldir. (Cofiwch – nid mynd i fwynhau gwyliau ydw i ond mynd ar gyfer tri diwrnod o astudio a thrafod gyda chriw amrywiol o nifer o wahanol wledydd.) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 6

imageI lawer ohonom mae’r Nadolig yn dwyn atgofion i ni o’n plentyndod. Roedd y cynnwrf wrth i ni ddysgu geiriau’r ddrama Nadolig, neu wrth weld y nwyddau yn y siopau a pharatoi’r addurniadau yn gosod naws arbennig i’r tymor.

Un o’r atgofion sydd gen i yw eistedd yn Festri’r capel yn Aberystwyth a chlywed geiriau’r hen garol ladin: O! Tyred Di, Emaniwel. Unwaith roeddwn yn clywed nodau cyntaf y garol yn cael eu chwarae, roeddwn yn gwybod fod y Nadolig ar y trothwy. (rhagor…)