Adfent 2013
Tymor yr Adfent vii
Un o’r pethau sydd wedi bod ar y newyddion y dyddiau diwethaf yw’r olygfa dorcalonnus o gartrefi wedi eu hysgubo ymaith gan y stormydd ar arfordir dwyrain Lloegr.
Roedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau. (rhagor…)
Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol.