Blwyddyn Newydd

Delw'r duw Janus yn edrych yn ôl ac ymlaenDarllenwch Philipiaid 3:7-14

Cyrhaeddodd diwrnod olaf y flwyddyn – diwrnod y bydd llawer yn oedi i edrych yn ôl ar yr hyn fu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gallwn gofio digwyddiadau amlwg cyhoeddus, o gyflafan swyddfeydd Charlie Hebdo ddechrau Ionawr ac argyfwng y ffoaduriaid i lwyddiant tîm tennis Prydain yng Nghwpan Davis a chynnwrf Tim Peake yn mentro i’r gofod. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, digwyddiadau personol fydd yn llenwi ein atgofion. (rhagor…)

Nadolig 5

imageDarllenwch Luc 2:36-38

Beth yw eich gobeithion chi am eich bywyd? Anaml bydd ein bywydau yn dilyn y patrwm rydym yn ei obeithio. Mae gennym gynlluniau, ac efallai ein bod yn llwyddo i gyflawni rhai ohonyn nhw. Ond wedyn mae pethau annisgwyl yn torri ar draws y cyfan. Mae hanes y byd yn llawn o straeon am bobl ddaru gael rhywbeth annisgwyl yn newid cwrs eu bywyd. (rhagor…)

Nadolig 4

imageDarllenwch Salm 146

Pawb â’i fys lle bo’i ddolur“. Dyna ddywed yr hen ddihareb Gymraeg. Rydym, bob un ohonom yn gweld y byd o berspectif hunan-ganolog. Mae yna rhyw reidrwydd yn hyn, oherwydd mae’r hyn sy’n digwydd i fi yn fwy real na’r hyn sy’n digwydd i bobl mewn llefydd eraill. Daeth hyn yn glir iawn i mi y dyddiau diwethaf wrth edrych ar y penawdau newyddion. Yr hyn sydd wedi bod yn llenwi’r rhan helaethaf o’r rhaglenni newyddion ar y teledu yw’r glaw a’r llifogydd, yn enwedig yng ngogledd Lloegr. (rhagor…)

Nadolig 3

imageDarllenwch Luc 2:15-20

Mae’r dathlu’n parhau i lawer heddiw, er fod pethau yn dechrau tawelu. Mae’r plant yn mwynhau eu anrhegion o hyd. Mae papur yr anrhegion wedi ei glirio a’r bwyd yn raddol leihau. Mae berw diwrnod cyntal y “Boxing day sales” drosodd, a neb allan yn gynnar iawn i ddisgwyl i’r siopau agor heddiw dybiwn i. Er i rai geisio cadw’r cynnwrf i fynd, mae’n anorfod fod yna ryw ostwng y lefel o fwrlwm. (rhagor…)

Nadolig 2

imageDarllenwch Mathew 2:12-18

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwahanol. Dyna pam fod y myfyrdod yn hwyr yn ymddangos. Gadewch i mi egluro. Roeddwn i fyny cyn hanner awr wedi pedwar, er mwyn mynd â Heledd, fy merch, i faes awyr Manceinon. Mae’n cymryd rhan mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau – cynhadledd sy’n digwydd bob tair blynedd lle disgwylir 17,000 o fyfyryr i feddwl am waith yr Arglwydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 24

imageDarllenwch Ioan 18:33-38

Un o’r geiriau mae Ben, ein ŵyr bach tair mlwydd oed, wedi ei ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf ydi “Pam?” Dro ar ôl tro, wrth i mi dynnu ei sylw at rywbeth neu  pan fydda i’n dweud wrtho fo am wneud rhywbeth, fe ddaw’r cwestiwn “Pam?” Mae’n un o’r pethau hynny sy’n gosod dyn arwahán i greaduriaid eraill ar y ddaear yma. Mae’r gallu i gwestiynu, ac i geisio deall y rheswm y tu ôl i ddigwyddiadau a bodolaeth y byd yn ran o’n harbenigrwydd ni. (rhagor…)